CELG(4) WPL 13

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru

 

Uwch Gynghrair Cymru

Rwy’n cyfrannu’r ymateb hwn fel unigolyn, cefnogwr brwd o’r Uwch Gynghrair a chefnogwr clwb pel-droed Aberystwyth.

Ers sefydlu’r Uwch Gynghrair rwy’n teimlo mai un o’r prif wendidau yw nad oes cynllun strategol amlwg mewn lle i sefydlu’r uwch gynghrair fel endyd cryf, proffesiynol, ac un o’r rhesymau am hynny yw nad yw’r cynnyrch wedi ei ddatblygu yn ddigonol i’w farchnata’n addas.

Yn fy marn i mae angen ystyried nifer o ffactorau er mwyn sicrhau fod y cynnyrch yn ddeniadol i’r gynulleidfa o ran cefnogwyr, y cyfryngau a’r noddwyr.

 

Y clybiau

Pan gychwynnodd yr uwch gynghrair yn nechrau’r 90au rhoddwyd cyfle i unrhyw dimau wneud cais i fod yn rhan ohoni oedd yn ddigon teg ac ers hynny mae gofyn i’r clybiau hynny fod wedi gwella eu cyfleusterau a’u darpariaeth ar gyfer y cefnogwyr. Mae hyn yn glodwiw ond yr hyn nad sydd wedi digwydd yw ysyried beth sydd orau er mwyn marchnata’r gem. Er ei fod yn gynllun dadleuol mae angen ystyried y posibiliad o greu timau rhanbarthol ar gyfer yr uwch gynghrair fyddai’n hybu’r torfeydd ac yn codi’r safon. Dylai hyn yn ei dro gynyddu’r apel o ran y noddwyr a’r wasg.

O edrych ar ganolbarth Cymru mae’n braf gweld timau fel Drenewydd, Caersws, Aberystwyth a Chaerfyrddin yn cystadlu ond mae realiti’r sefyllfa economaidd ar hyn o bryd yn golygu nad yw’n bosib cynnal safonau uchel yn y tymor hir gan nad yw’r pwll o chwaraewyr yn ddigon eang, ac fel canlyniad nid yw’r cynnyrch i’w farchnata yn ddigon safonol ar gyfer cynghrair cenedlaethol. Mae’r symudiad i leihau y nifer o dimau yn y gynghrair yn bendant wedi cynyddu’r diddordeb yn hanner olaf y tymor ond er mwyn manteisio i’r eithaf ar hyn dylid ystyried lleihau y gynghrair ymhellach I wella’r safon ac o bosib sefydlu ail adran i’r gynghrair genedlaethol. Byddai hyn yn galluogi buddsoddi yn fwy sylweddol yn natblygiad adnoddau fel meysydd safonol fyddai ar gael ar gyfer gemau uwch eu proffil e.e. gemau cenedlaethol ar gyfer y timau iau.

Mae angen adnabod clybiau neu ardaloedd lle mae cefnogaeth graidd gref yno e.e. Bangor, Rhyl, Aberystwyth, Caerfyrddin ac ystyried sut ellir adeiladu ar y gefnogaeth sydd yno eisoes i wneud y cynnyrch yn fwy atyniadol i gefnogwyr masnachol a noddwyr. Mae’r cynnyrch yn fwy atyniadol os gellir dangos fod 500-600 o gefnogwyr yno yn gyson yn hytrach na thimau sydd yn ei chael yn anodd i ddenu ychydig ddegau.

 

Peldroed yn yr haf?

Mae rhywfaint o drafodaeth wedi bod ynglyn a newid strwythur y tymor ond eto nid wyf yn credu fod y trafodaethau wedi eu strwythuro mewn modd strategol. Mae angen trafodaeth ac ystyriaeth aeddfed i gael toriad yn y tymor e.e. rhwng Rhagfyr a Mawrth. Mae’r caeau ar eu gwaethaf yn ystod y cyfnod hwn ac unwaith eto nid ydynt yn cyfleu darlun proffesiynol o gynghrair genedlaethol. Byddai angen i’r Gymdeithas Beldroed ystyried sut allent helpu’r clybiau i ddelio gyda’r diffyg incwm yn y cyfnod hyn ond gallai fod yn fanteisiol i’r clybiau hynny sydd yn cystadlu yn Ewrop gan y byddent yn dal yn chwarae pan fo cystadlaethau Ewrop yn cychwyn yn yr haf, nid fel y mae ar hyn o bryd

Opsiwn arall i’w ystyried yw newid y tymor yn gyfangwbl i gychwyn ym Mawrth a rhedeg drwy’r haf yn debyg i rai cynghreiriau eraill yn Ewrop. Fel uchod gallai hyn fod yn fanteisiol i glybiau sydd yn chwarae yn Ewrop a gallai hefyd olygu mwy o sylw gan y wasg gan fyddai yn cystadlu gyda thymor peldroed Lloegr.

Rwy’n sylweddoli byddai hyn yn newid go sylweddol ond mae angen cael y drafodaeth ac iddi gael ei harwain yn aeddfed ac yn strategol gan y Gymdeithas Beldroed.

 

Y Cyfryngau 

Mae’r sylw gaiff y Gynghrair gan ein cyfryngau yng Nghymru wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf ond mae dal braidd yn ad hoc ar y cyfan. Mae rhaglen Sgorio bob pnawn Sadwrn yn sicr yn gaffaeliad ac yn dod a gwylwyr Cymraeg a di-Gymraeg at ei gilydd yn llwyddiannus.

Serch hynny mae’r sylw cyffredinol gan y cyfryngau eraill yng Nghymru yn hynod o siomedig. Rwy’n derbyn fod na flaenoriaethu gyda’r clybiau pel-droed sydd yn chwarae yng nghynghreiriau Lloegr ond mae’r sylw gaiff y gynghrair gan ein “papur cenedlaethol” – y Western Mail – yn warthus o wan ac arwynebol. Tra fod radio’r BBC ar y cyfan o leiaf yn rhoi canlyniadau y Gynghrair, yn aml nid yw hyn yn wir o wasanaeth newyddion teledu BBC ac ITV, yn enwedig ar eu bwletinau nosweithiol yn ystod yr wythnos pan gaiff gemau eu chwarae.

Mae angen i’r Gymdeithas Beldroed, gyda chefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol, roi pwysau ar y darlledwyr i gofio fod gennym gynghrair genedlaethol ac y dylai gael sylw dyledus. Wedi dweud hyn oll, o gofio fy mhwyntiau blaenorol am wella’r safon a’r marchnata dylai’r sylw gan y cyfryngau ddilyn yn naturiol.

 

 

 

Clybiau cymunedol

Yn olaf mae angen ystyried rol y clybiau pel droed o fewn eu cymunedau. Ryn ni’n byw mewn cymdeithas lle mae gordewdra yn broblem gynyddol a diffyg ymarfer corff ar gyfer ein plant a phobl ifanc yn her aruthrol. Gellir ystyried datblygu rol y clybiau i gyfrannu at yr agenda hyn, nid yn angenrheidiol drwy hybu peldroed cystadleuol, ond i hybu gweithgarwch corfforol a datblygu’r clybiau i fod yn galon cymuned ac yn cynnig gweithgareddau i fechgyn a merched fel ei gilydd.

Mewn oes anodd yn economaidd gallai hyn greu ffynhonell incwm broffidiol i’r clybiau ac, o’i weinyddu’n briodol ac yn strategol, i’r Gymdeithas Beldroed yn ogystal.